Hoffwn i wybod...
Pa mor hir mae'n ei gymryd i ddysgu Cymraeg?
Cwestiwn anodd! Mae hyn yn dibynnu ar sawl ffactor - pa mor benderfynol dach chi, faint o oriau'r wythnos dach chi'n eu neilltuo i'ch astudiaethau, faint o gysylltiad sydd gynnoch chi â'r iaith bob dydd o'ch cwmpas. Gall ansawdd y cymorth a gewch gan eich tiwtor gael effaith aruthrol hefyd. Edrychwch ar ein Syniadau Da ar gyfer dysgu Cymraeg.
Ydy eich dosbarthiadau i gyd ar lein?
Mae pob un o'n sesiynau ar-lein. 'Dan ni'n defnyddio Zoom. Dan ni'n credu mai dyma'r dull mwyaf effeithiol o ddysgu Cymraeg. Mae'n gyfleus, yn gost-effeithiol ac yn gyfeillgar i'r amgylchedd.
Faint dach chi'n godi?
Mae hyn yn amrywio, yn dibynnu ar natur y sesiwn. Mae ein sesiwn blasu er enghraifft yn costio £20 am un awr. Am wersi wedi'u teilwra'n arbennig dan ni'n codi fymryn mwy gan bydd yn cymryd mwy o amser i baratoi gwers yn arbennig ar eich cyfer chi.
Dach chi'n medru dysgu Cymraeg y gogledd a'r de?
Ydan wir. A ninnau wedi dysgu Cymraeg yn y gogledd a'r de dan ni'n gymwys i'ch helpu i ddysgu patrymau'r naill dafodiaith neu'r llall.
Dach chi'n cynnig gwersi i blant?
Mae ein gwersi ar gyfer y rhai dros 18 yn unig. Os dach chi'n chwilio am diwtor ar gyfer plentyn oedran ysgol dan ni'nawgrymu eich bod yn cysylltu ag ysgol eich plentyn. Dylen nhw allu eich rhoi mewn cysylltiad â thiwtor addas.
Dach chi'n cynnig gwersi i bobl sy tu allan i'r DU?
Ydan. Gyda gwersi Cymraeg rhithwir bellach i'w cael mor rhwydd mae yna ddysgwyr Cymraeg ar draws y byd. Byddem yn ymdrechu i ddarparu gwers i chi ar amser sy'n gyfleus i bawb.