Syniadau da ar gyfer dysgu Cymraeg yn llwyddiannus
Mynnwch diwtor â phrofiad
Cyn ymrwymo i wersi Cymraeg, gofynnwch i'ch tiwtor am eu profiad dysgu a'u cymwysterau.
Mae dysgu Cymraeg gyda thiwtor profiadol yn cynnig manteision amhrisiadwy. Mae ehangder eu profiad yn dod â mewnwelediad i naws yr iaith, y cyd-destun diwylliannol, a thechnegau addysgu effeithiol. Maen nhw'n medru addasu i arddulliau dysgu unigol, gan ddarparu arweiniad personol a chreu amgylchedd cefnogol ar gyfer caffael iaith yn gyflym.
Dechreuwch ddefnyddio'r Gymraeg yn y byd go iawn cyn gynted â phosibl
Defnyddiwch ychydig eiriau yn gyntaf. Yna magwch hyder trwy ddefnyddio ychydig mwy o frawddegau fesul wythnos. Os gallwch chi, dewch o hyd i un person y gallwch chi ymarfer â nhw - rhywun y gallwch ymddiried ynddo na fydd yn eich beirniadu. Os nad ydych chi'n byw yng Nghymru neu'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i siaradwyr Cymraeg yn eich ardal chi, dewch o hyd i ddosbarth sgwrsio Cymraeg ar-lein.
Dysgwch dameidiau ar y tro
Mae'n fwy effeithiol dysgu ychydig, yn aml na 'dysgu mewn pyliau' unwaith yr wythnos. Neilltuwch ychydig o 'amser fi' bob dydd pan fyddwch chi'n gwneud ymarferion Cymraeg, darllen a dysgu geirfa. Dan ni hefyd yn argymell y dechneg ailadrodd bylchog yn fawr. Mae hyn yn golygu defnyddio cardiau fflach sy'n ailadrodd geirfa anodd yn amlach. Mae llawer o lwyfannau yn cynnig y math hwn o ddysgu hwn gan ddefnyddio cardiau fflach.
Ymarferwch eich sgiliau gwrando
Bydd gwylio rhaglenni teledu Cymraeg gydag isdeitlau yn eich ymgyfarwyddo â rythmau a ffurfdroadau'r iaith. Rhowch BBC Radio Cymru ymlaen yn y cefndir tra'ch bod chi'n gyrru neu'n gwneud gwaith tÅ·. Synnech chi pa mor effeithiol yw'r math hwn o 'wrando goddefol'.
Defnyddiwch fwy nag un dull o ddysgu
Mae rhai o'r dysgwyr mwyaf llwyddiannus dan ni wedi cwrdd â nhw yn dysgu gan ddefnyddio sawl platfform ochr yn ochr. Maen nhw'n defnyddio ap, yn darllen llawer ac mae ganddyn nhw diwtor hefyd. Bydd hyn yn cymryd cryn ymrwymiad ond os dach chi am feistroli'r iaith yn yr amser byrraf posibl mae'n werth ei wneud.
Darllenwch lyfrau i siaradwyr newydd
'Dan ni'n hoff iawn o ddarllen yn TheWelshWorks. 'Dan ni wrth ein bodd â chyfres 'Amdani' o lyfrau graddedig ar gyfer siaradwr newydd yr iaith. Mae gweld yr iaith mewn du a gwyn ar dudalen yn atgyfnerthu'r patrymau dach chi'n ceisio'u meistroli.
Gocheler rhag yr ysfa am berffeithrwydd
Mae'n bosibl mai dysgu iaith yw'r peth mwyaf cymhleth wnewch chi fel oedolyn. Yn amlwg dach chi eisiau gwneud pethau'n iawn pan fyddwch chi'n dechrau siarad Cymraeg. Ond peidiwch â gadael i'ch ysfa am berffeithrwydd amharu ar eich rhuglder. Derbyniwch y byddwch chi'n cael pethau'n anghywir pan fyddwch chi'n defnyddio'r iaith gyda siaradwyr brodorol am y tro cyntaf. Ond wyddoch chi beth? Fydd dim ots gan neb am eich camgymeriadau. Bydd pobl bron yn ddieithriad yn cael eu swyno gan eich ymdrechion ac yn ymateb yn gadarnhaol i chi.